This page contains affiliate links. As Amazon Associates we earn from qualifying purchases.
Language:
Form:
Genre:
Published:
Edition:
Collection:
Tags:
FREE Audible 30 days

Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda ‘r wawr,
Gan bugeiliaid megis cynt.
Eto tyfa ‘r llygad dydd,
Ogylch traed y graig a’r bryn;
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.

Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenedlaeth wedi mynd,
A chenedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw;
Ond mae ‘r heniaith yn y tir,
A’r alawon hen yn fyw.