Ceiriog by John Ceiriog Hughes

This etext was produced by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk, from the 1902 Ab Owen edition. This Etext is in Welsh CEIRIOG by John Ceiriog Hughes CYNHWYSIAD. Rhagymadrodd Nant y Mynydd Meddyliau am y Nefoedd Mae John yn mynd i Loegr Bugail yr Hafod Ti wyddost beth ddywed fy nghalon Y fenyw fach a’r Beibl mawr
This page contains affiliate links. As Amazon Associates we earn from qualifying purchases.
Language:
Form:
Genre:
Published:
Collection:
Tags:
Buy it on Amazon FREE Audible 30 days

This etext was produced by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk, from the 1902 Ab Owen edition.

This Etext is in Welsh

CEIRIOG

by John Ceiriog Hughes

CYNHWYSIAD.

Rhagymadrodd
Nant y Mynydd
Meddyliau am y Nefoedd
Mae John yn mynd i Loegr
Bugail yr Hafod
Ti wyddost beth ddywed fy nghalon
Y fenyw fach a’r Beibl mawr
Dychweliad y Cymro
Addfwyn fiwsig
Y Carnadau
Bugeilio’r Gwenith Gwyn
Mae’n Gymro byth
Mi welaf mewf adgof
Dim ond unwaith
Y march ar gwddw brith
Y Ferch o’r Scer
Pa le mae’r hen Gymry
Maes Crogen
Tros y Garreg
Bardd yn ei Awen
Codiad yr haul
Llongau Madog
Serch Hudol
Breuddwyd y Bardd
Corn y Gad
Dafydd y Garreg Wen
Toriad y Dydd
Yr Eneth Ddall
Codiad yr Hedydd
Ar hyd y Nos
Morfa Rhuddlan
Dim ond dechreu
Difyrrwch Gwyr Harlech
Trot y Gaseg
Llances y Dyffryn
Yn Ynys Mon
Cadlef Morgannwg
Mwyn yw myned tua Mon
Hun Gwenllian
Ar ddol pendefig
A laeswn ni ddwylaw
Llwybr y Pererin
Bedd Llywelyn
A ddywedaist ti fod Cymru ‘n dlawd
Peidiwch byth a dwedyd hynny
Dydd trwy ‘r ffenestr
Cerddi Cymru
I gadw ‘r hen wlad
Myfi sy’n magu ‘r baban
Tua Thegid dewch
Hen gwrwg fy ngwlad
Pob rhyw seren fechan wenai
Claddedigaeth Morgan Hen
Myfanwy
Gofidiau Serch
Wrth weld yr haul yn machlud
Y fodrwy briodasol
O weddi daer
Y baban diwrnod oed
Y fam ieuanc
Ceisiais drysor
Y fynwent yn y coed
Claddasom di, Elen
Annie Lisle
Y defnyn cyntaf o eira
Cavour
Y milwr na ddychwel
Garibaldi a charcharor Naples
Glogwyn anwyl
Ffarwel iti, Gymru fad
Tros un o drumiau Berwyn
Dychweliad yr hen filwr
Trwy wledydd dwyreiniol
Y Garreg Wen
Tuag adre
Beibl fy mam
Alun Mabon

RHAGYMADRODD.

Ar un o lethrau’r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a’i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mwg a thwrw Manceinion, roddodd fod i’w gan pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i’r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o’i gan fuddugol,–“Myfanwy Fychan,”–yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a’i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Hwyr;” daeth hwn ar unwaith yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei “Oriau’r Bore,” lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe chant o’i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un flwyddyu. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a’r rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.

Trwy’r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,– llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol a’r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio’r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn allu cenhedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac ymfalchiai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd oedd.

Wrth drefnu’r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog, gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw hyn,–dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a’r tyner yn ei awen, ac nid y digrif. I’r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o’i enaid, ac ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.

Dymunwn ddiolch yn gynnes i’r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi. Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o’r caneuon sydd yn y gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynnu y ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.

Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei naturioldeb syml a’i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i’w gan. Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog a rhai o’i thannau. Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian man, a thra bo gwrid mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca’r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.

“Alun Mabon” yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a’i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.

“Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn.” Nid teulu Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o’i waith ei hun, –

ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI 25,
1832,
A FU FARW EBRILL 23,
1887.

Carodd eiriau cerddorol,–carodd feirdd, Carodd fyw ‘n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma ‘i fedd,–a dim lol.

OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen,
Mawrth 1, 1902.

NANT Y MYNYDD.

Nant y mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant;
Rhwng y brwyu yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant.

Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo’r grug.

Adar man y mynydd uchel,
Godant yn yr awel iach;
O’r naill drum i’r llall yn hedeg – O na bawn fel deryn bach.

Mab y Mynydd ydwyf innau,
Oddicartref yn gwneyd can,
Ond mae’m calon yn y myuydd
Efo’r grug a’r adar man.

MEDDYLIAU AM Y NEFOEDD.

Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn gyfieithiedig.

Daw meddyliau am y nefoedd
Gydag awel wan y nawn,
Gyda llanw’r mor fe ddeuant,
Gan lefaru ‘n felus iawn;
Pan fo ‘r mellt fel ser yn syrthio, Yn y storm gynhyrfus, gref –
Pan fo ‘r llong yn teimlo ‘r creigiau, Daw meddyliau am y nef.

Daw meddyliau am y nefoedd,
I unigedd fforest goed,
Ac i’r anial, lle nas tyfodd
Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau ‘r ia tragwyddol,
Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
Daw meddyliau am y ne.

Daw meddyliau am y nefoedd
I ynysig leia ‘r aig,
Lle mae ‘r don yn gosod coron
Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd
Ddont eu hunain i bob man.

MAE JOHN YN MYND I LOEGER.

Y mae hen don wladol o’r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i’w canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi a’r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn ddyweyd am y gan ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.

Mae John yn mynd i Loeger,
A bore fory ‘r a;
Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny ‘n dda;
Wrth bacio ‘i ddillad gwladaidd,
A’u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.

Mae ef yn hel ei lyfrau,
I’r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
Gwychderau ‘r trefydd mawr.
Nis gwel e ‘r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist;
Na ‘r Beibl bychan newydd
A roddwyd yn y gist.

Yn fore, bore drannoeth,
Pan gysgai ‘r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu ‘n iach.
Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i’w wneyd –
Fe gawsai aros hefyd,
Pe b’asai ‘n meiddio dweyd.

I gwrdd y tren boreuol,
Cyn toriad dydd yr a, –
“Ffarwel, fy mhlentyn anwyl,
O bydd yn fachgen da!
Y nef a’th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio ‘th gartref,
Na ‘th wlad, na ‘th iaith, na’ th Dduw.”

BUGAIL YR HAFOD.
ALAW,–Hobed o Hilion.

Pan oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd, A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd yd; Tan goeden gysgodol mor ddedwydd ‘own i, Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi; Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf,
Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion Yn mwynhau y maesydd a’r dolydd ar hafddydd ar ei hyd.

Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad; Tra ‘m chwaer efo ‘i hosan a mam efo carth, Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lan y barth, Deued a ddeuo, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth I’r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad.

Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddilyth, Ond dychwel wna’r wennol yn ol i’w hanwyl nyth; A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt, Gan gofio ‘r hen gartref chwareuem ynddo gynt. Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.

TI WYDDOST BETH DDYWED FY NGHALON.

Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo.

Yn araf i safle ‘r gerbydres gerllaw, Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw, Pan welai y fan oedd raid cychwyn.
Ymwelwodd ei gwefus–ei llygaid droi ‘n syn, Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn, – “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Canfyddodd fy llygad mewn dagrau ‘n pruddhau, Gwir ddelw o’i llygad ei hunan;
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau, Er nad fy nhristau oedd ei hamcan.
Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddweyd, – “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Nid son am gynllwynion y diafol, a’i fryd, Er ennill ieuenctid i’w afael –
Nid son am ffolineb, a siomiant y byd, Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael;
Dymunai ‘n ddiameu bob lles ar fy nhaith, Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion;
Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith, – “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf, Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf, Yn nesaf dro’i oll, yn ddieffaith
Do, clywais hyawdledd–er teimlo ei rym, Mewn effaith ni lyn ei rybuddion;
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym, – “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y mor, Yn chware a chreigiau peryglon;
O’m amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior, Wyf finnau ddiferyn o’r eigion;
Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol, Ond tra ar y dibyn echryslon
Atelir fi yno gan lais o fy ol, –
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef,
Y tanllyd lythrennau “NA PHECHA;” Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef –
“Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;” Pe mellten arafai nes aros yn fflam,
I’m hatal ar ffordd anuwiolion,
Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam, – “Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”

GWYN, GWYN YW MUR.

Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn, O’i bared tyf rhosynau coch a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw – Tu fewn mae’r ferch, fy nghariad wen, yn byw.

Y FENYW FACH A’R BEIBL MAWR.

[Mae y gan hon yn un a gerir gennyf fi tra byddaf byw, am fy mod wedi digwydd ei chyfansoddi rhwng 9 a 10 o’r gloch, boreu Ebrill y 3ydd, 1859. Boreu trannoeth derbyniais lythyr ymylddu o Gymru, yn dwyn imi y newydd fod fy anwyl dad wedi cau ei lygaid ar y byd hwn, ar y dydd a’r awr grybwylledig.–J. C. H.]

Disgynnai ‘r gwlaw, a gwynt y nos
A ruai yn y llwyn;
Pan oedd genethig dlawd, ddifam,
Yn dal ei chanwyll frwyn;
Wrth wely ei chystuddiol dad,
A’i gliniau ar y llawr,
Gan dynnu ‘r wylo iddi’ hun,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai ‘r gwlaw a gwynt y nos
Gwynfanai am y dydd,
A llosgi ‘r oedd y ganwyll frwyn
Uwchben y welw rudd;
A gwylio ‘r oedd y fenyw fach
Ei thad o awr i awr,
Gan dorri mewn gweddiau taer,
A darllen y Beibl mawr.

Disgynnai ‘r gwlaw, a gwynt y nos
Dramwyai drumiau ‘r wlad,
A chwsg a ddaeth i esmwythau
Ei chystuddiedig dad;
Ond pa fath gwsg, nis gwyddai hi,
Nes dwedai ‘r oleu wawr,
Ei fod ef wedi mynd i’r nef,
Yn swn yr hen Feibl mawr.

Disgynna ‘r gwlaw, ac eto ‘r gwynt
A rua yn y llwyn,
Uwchben amddifad eneth dlawd,
Tra deil ei chanwyll frwyn;
Ar ol ei thad, ar ol ei mham,
Ei chysur oll yn awr
Yw plygu wrth eu gwely hwy,
A darllen y Beibl mawr.

DYCHWELIAD Y CYMRO I’W WLAD EI HUN.

O Hinsawdd i hinsawdd mi grwydrais yn hir, O rewdir y Gogledd i Itali dlos:
Am danat ti Walia, ar for ac ar dir, Hiraethais y dydd a breuddwydiais y nos. Cyfeiriais fy nghamrau i’r ardal hoff hon, Ar gopa Clawdd Offa gosodais fy nhraed; Daeth awel y mynydd fel gwin i fy mron,
A golwg ar Gymru gynhesodd fy ngwaed, A golwg ar Gymru gynhesodd ngwaed.

Ar dywod yr anial bu ol fy nau droed, Mi deithiais yn oerfel a phoethder yr hin; O’r fro lle nas tyfodd glaswelltyn erioed, I wledydd y mel a gwinllanoedd y gwin; Yng Nghymru parhaodd fy nghalon o hyd,
Anwylach a harddach oedd hen Walia wen; Mi groesais y mor i eithafoedd y byd:
Ond croesais yr Hafren i orffwys fy mhen, Yng nghartref fy nhadau gorffwysaf fy mhen.

ADDFWYN FIWSIG.

Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig,
Gwenferch gwynfa ydwyt ti;
Pan anedli, adfywiedig
Awel haf ddaw atom ni.
Gauaf du helbulon,
Droi yn ha;
Danat rhew y galon,
Toddi wna, toddi wna.
Dafnau melus bro gogoniant,
Yn dy lafar di ddisgynnant;
Blodau Eden yn ddiri’,
Dyfant, wenant, beraroglant,
Yn dy lais a’th wyddfod ti.
Nefol ferch ysbrydoledig,
Ti sy ‘n puro ‘r fron lygredig,
Ti sy ‘n llonni ‘r cystuddiedig.
Addfwyn Fiwsig, addfwyn Fiwsig
Gwenferch gwynfa ydwyt ti.

Y CANIADAU.

Nid oes gennyf fawr o bleser gydag ysgrifennu un math o farddoniaeth heblaw caneuon bychain o’r fath hyn. Fy mhlant fy hun ydyw’r Caniadau. Dymuniad fy nghalon a balchder fy mynwes ydyw eu dwyn i fyny yn blant da. Wrth adael i rai ddawnsio mewn plentynrwydd, ac i’r lleill chwerthin ac ysmalio, caiff nifer o honynt gadw carwriaeth ac eraill ganu hen alawon eu brodir. Caiff bechgyn weithio yn y graig, a bugeilio ar y mynydd, a phan fydd dolefiad corn y gad yn galw, fe’u cyfeiriaf i faes y frwydr i amddiffyn eu cartref, ac i farw’n ddewr tros Ryddid eu mamwlad. Yn nesaf at ofni Duw ac anrhydeddu y brenin, cant garu eu gwlad a meddwl yn dda am eu hiaith a’u cenedl.

BUGEILIO ‘R GWENITH GWYN.
ALAW,–Bugeilio ‘r gwenith gwyn.

Eisteddai merch ar gamfa’r cae,
A’i phen gan flodau ‘n dryfrith,
I gadw ‘r adar bach ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith.
Rho’i ganiatad i’r deryn to,
A’r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.

Pan welot tithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di,
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i’w gweddi;
Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r gwlaw, Yn meddwl am roi iddi.

Os wyt am fedi gwenith gwyn,
Gofala beth a heui;
A wyt ti’n hau y dyddiau hyn
Yr hyn ddymunet fedi?
Tra gwelot wlith a gwlaw y nen,
A’r heulwen yn haelionus;
Wel dos i hau ar dir y tlawd,
A chofia’th frawd anghenus.

MAE ‘N GYMRO BYTH.
ALAW,–O Gylch y Ford Gron.

Mae’n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gar ei wlad ddinam;
Ac ni fu hwnnw ‘n Gymro ‘rioed,
A wado fro ei fam.
Aed un i’r gad a’r llall i’r mor,
A’r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnaiff y Cymro iawn.

Cydgan: Does neb yn caru Cymru ‘n llai, Er iddo grwydro ‘n ffol;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ol.

Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi ‘n hir,
Ac er i’r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae ‘r cof am dad a mam yn mynd
I’r bwthyn yn y ddol,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw galw ‘n ol.

Enilled aur ac uchel glod,
Mewn gwlad o win a mel;
Aed yn ei longau ar y mor,
Er maint o’r byd a wel;
Wrth edrych ar fachludiad haul
A gwylio ser y nos,
Bydd clychau arian yn y gwynt
Yn son am Gymru dlos.

MI WELAF MEWN ADGOF.
ALAW,–Difyrrwch Arglwyddes Owen.

Mi welaf mewn adgof hen ysgol y Llan, A’r afon dryloew yn ymyl y fan:
O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes, A’r coedydd gysgodent fy mhen rhag y gwres. Yng nghanol eu cangau mae telyn y gwynt, Yn eilio ‘r hen alaw a ganwn i gynt;
Rwy ‘n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf, A ‘nghalon yng Ngwalia ple bynnag yr af.

Rwy’n gweled y defaid a’r wyn ar y bryn, Rwy ‘n gweled gwynebau sy ‘ngwaelod y glyn; Rwy’n clywed rhaiadrau yn adsain o draw, Ar mawrwynt yn erlid y cenllysg ar gwlaw. O sued yr awel, a rhued y don,
Beroriaeth adgofion yn lleddf ac yn llon, Boed cwpan dedwyddyd yn wag neu yn llawn, Yng Ngwalia mae ‘r galon ple bynnag yr awn.

DIM OND UNWAITH YN Y FLWYDDYN.

Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Awn i fyny ‘r cymoedd cain;
Awn i ogli ‘r peraidd borwellt
Llysiau ‘r mel a blodau ‘r drain. Dim ond unwaith yn y flwyddyn
Gwena ‘r ddaear oll fel gardd;
Awn aan dro, tua bryniau ‘n bro
Dim ond unwaith yn y flwyddyn,
Pwy na chwery, pwy na chwardd?

Y MARCH A’R GWDDW BRITH.
ALAW,–Y Gadlys.

Caradog eilw ‘i ddeiliaid,
Ag udgorn ar ei fant;
Fe ruthrodd y Siluriaid,
Cwympasant yn y pant.
Enciliodd arwyr enwog,
Ond ar y march a’r gwddw brith
Fe ddaw ‘r frenhines deg i’w plith I edrych am Garadog.

Mae cynnwrf yn y ceunant,
Ar derfyn dydd y gad;
A dynion dewr orweddant,
I farw tros eu gwlad.
Yr afon foddodd fyddin,
Ond ar y march a’r gwddw brith,
Fe ddaw ‘r frenhines deg i’w plith, I edrych am y brenin.

Fe welodd y Rhufeiniaid
Y march a’r gwddw brith;
Ond gwelodd y Brythoniaid
Frenhines yn eu plith.
Mae ‘r corn yn ail-udganu,
Brythoniaid yn eu holau dront,
Rhufeiniaid yn eu holau ffont,
O flaen cleddyfau Cymru.

Y FERCH O’R SCER.
ALAW,–Y Ferch o’r Scer.

Dywedir fod Merch y Scer yn ddarpar gwraig i’r telynor am rai blynyddau, ond gan iddo trwy ryw ddamwain golli ei olwg, fe berswadiwyd y llances gan ei pherthynasau a chan ei theimladau ei hun i roi pen ar y garwriaeth. Gwnaed y don gwynfanus a phrydferth hon gan y telynor i arllwys allan ei siomedigaeth a’i ofid.

‘R wyf yn cysgu mewn dallineb
Ganol dydd a chanol nos;
Gan freuddwydio gweled gwyneb
Lleuad wen a seren dlos.
Tybio gweld fy mam fy hunan –
Gweld yr haul yn danbaid der;
Gweld fy hun yn rhoddi cusan
I fy chwaer a Merch y Scer.

Gwresog ydyw’r haul gwyneblon,
Oer, ond anwyl, ydyw ‘r ser;
Gwres oer felly yn fy nghalon
Bar adgofion Merch y Scer.
Mae fy mam a’m chwaer yn dirion,
Yn rhoi popeth yn fy llaw;
Merch y Scer sy ‘n torri ‘m calon,
Merch y Scer sy ‘n cadw draw.

Cariad sydd fel pren canghennog,
Pwy na chara Dduw a dyn?
Cangen fechan orflodeuog
Ydyw cariad mab a mun.
O! ‘r wy’n diolch ar fy ngliniau,
Am y cariad pur di-ball;
Cariad chwaer sy ‘n cuddio beiau –
Cariad mam sy’n caru ‘r dall.

PA LE MAE ‘R HEN GYMRY?
ALAW,–Llwyn Onn.

Bernid unwaith, nid yn unig gan Gymru hygoel, ond gan yr holl deyrnas, fod llwyth o Indiaid Cymreig yn preswylio parth o’r America ar gyffiniau yr afon Missouri, ac mai y Padoucas neu y Mandanas oeddynt. Y mae yr hanes am JOHN EVANS o’r Waunfawr, yn Arfon, yn hynod effeithiol. Cenhadwr ieuanc, llawn o ysbryd gwladgarol ac o sel grefyddol ydoedd ef. Ymgymerodd a’r gorchwyl mawr o fyned i eithafoedd America, i chwilio am ddisgynyddion Madog, ac i bregethu yr efengyl iddynt. Dilynodd John Evans yr afon Missouri am 1,600 o filldiroedd, ond tarawyd ef a’r dwymyn, a bu farw, ymhell o’i fro enedigol, ac mor bell ag erioed oddiwrth yr Indiaid Cymreig. Y mae pedwar ugain mlynedd er hynny, ac y mae ein barn, gan mwyaf, wedi cyfnewid o barth i fodolaeth bresennol disgynyddion Madog ap Owen Gwynedd. Gweler draethawd Thomas Stephens, Ysw., Merthyr Tydfil, ar y mater. Y mae amcan mawreddus, ynni anturiaethus, taith aflwyddiannus, a diwedd torcalonnus y Cymro ieuanc hwn yn hynod darawiadol.

Mae ‘r haul wedi machlud, a’r lleuad yn codi, A bachgen o Gymru yn flin gan ei daith; Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lan y Missouri, I chwilio am lwyth a lefarent ein hiaith. Ymdrochai y ser yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy i hun; “Pa le mae fy mrodyr?” gofynnai i’r afon “Pa le mae ‘r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”

Fe ruai bwystfilod, a’r nos wnai dywyllu, Tra ‘r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn; Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu, Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn. Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru, Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrodd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn, “Pa le mae ‘r hen Gymry, fy mhobol fy hun?”

MAES CROGEN BORE TRANOETH.
ALAW,–Y Fwyalchen.

Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o’r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ol ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin–ac ar ran o’r mynydd perthynol i’r amaethdy y’m ganwyd ac y’m magwyd i.

Y frwydr aeth trosodd o’r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr;
A’r ser edrychasant ar Wynedd,
A’r bore ddilynodd yr hwyr.
‘R oedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur –
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwyr.

Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gad;
Tra ‘r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu, Eu breichiau tros filwyr ein gwlad.
Gorweddai gwr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw;
Tra i dad wrth ei ochor yn farw,
A’i gleddyf yn fyw yn ei law.

Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghyd;
Agorwyd y ffos ac fe ‘i cauwyd,
Ond canai ‘r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr.

TROS Y GARREG.
ALAW,–Tros y Garreg.

Pan y bydd llanciau a merched sir Feirionnydd mewn llefydd rhwng Bwlch Llandrillo a Chlawdd Offa, soniant yn fynych am fyned am dro i sir Feirionnydd, tros Garreg Ferwyn a thros y Bwlch. Awgrymwyd y gan hon gan lodes oedd yn myned ag arian i helpu ei mam dalu y rhent am y ty bychan lle y ganwyd ac y bu farw ei thad.

Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf;
Tros y mynydd
I Feirionnydd,
Tros y Garreg acw ‘r af.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny ‘r bryn o gam i gam,
Gyda ‘m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

Fe gaf chware ar y ddol,
Fe gaf eistedd ar y ‘stol,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan,
Tros y Garreg af yn ol.
Pan ddaw ‘r wythnos yn yr haf,
O fel codaf ac yr af,
Fyny ‘r bryn o gam i gam,
Gyda ‘m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig anwyl fam.

BARDD YN EI AWEN.
ALAW,–Bardd yn ei Awen.

Mae llawer eraill o ddulliau yn bod ar y mesur hwn, ond nid wyf yn alluog, oddiwrth yr engreifftiau sydd gennyf, i roi barn nac opiniwn pa un o’r amryw fathau yw y mwyaf dewisol. Y mae y don yn ddigon ystwyth ac ufudd, modd bynnag, i addasu ei hun at y cyfan. Efallai

Nad oes faws na dwys fesur
O un baich i hen don bur,

mwy nag i awen.

Mae Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin-fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lan;
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a’i hoffwn ef,
Pan gwyd pen gawr y gan;
Fe aiff i ddwyfol fan,
Yn nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd,
Enwadau ‘r byd yn un.

Fe ddaw y Bardd i’r byd,
A’i gan i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wel y dydd;
Pwy wel y bore gwyn,
Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn;
Am Hedd fe gan o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghyd
Enwadau ‘r byd yn un.

CODIAD YR HAUL.
ALAW,–Codiad yr Haul.

Mae yr alaw hon yn fwy addas feallai i’w chanu ar offeryn na chyda llais, oblegid ei bod mor gyflym, nes y mae synwyr, barddoniaeth geiriau, ac odlau yn cael llithro trostynt o’r bron heb eu cyffwrdd. Yr oedd Handel yn gydnabyddus iawn gyda’r hen donau Cymreig, ac fe ddefnyddiodd hon yn ei Acis and Galatea. Yr oedd cyfaill o Sais un tro yn chware yr alaw o dan fy nghronglwyd, ac wedi myned unwaith neu ddwy tros y don, pan waeddodd allan tros ei ysgwydd, “Ai ton Gymreig y galwch chwi hon? Ton o waith Handel yn don Gymreig!” Yr oedd yn dda gennyf gael cyfleustra i esbonio iddo.

Gwel, gwel! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore-gwyn mawr:
Ac wele’r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd! I’w wydd adar a ddont,
Dreigiau ‘r Nos o’i olwg a ffont. Pwy ddwed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y mor yn gochfor gwaed,
A’r ddaear dry o dan ei draed,
A’r ddaear dry o dan ei draed.

Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
Gwyneb Hedd yw gwyneb yr Haul:
I fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dan gyneuodd Duw!
I’w daith’ fyny y daw,
Llygaid dydd a’i gwelant ef draw; Egyr pob blaguryn byw,
Ar ros a gwaun yn rhesi gwiw –
Gwel pob peth wyn haul y nen,
E’ gwyd y byd pan gwyd ei ben,
E’ gwyd y byd pan gwyd ei ben.

LLONGAU MADOG.
ALAW,–Difyrrwch y Brenin.

Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg;
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i dal o don i don.

Ser y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd;
Codai corwynt yn y De,
A chodai ‘r tonnau hyd y ne;
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro ‘r mor ym mraich y gwynt; Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.

Wele’n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
‘R ol blwydd o daith yn bloeddio “Tir!” Canent newydd gan ynghyd,
Ar newydd draeth y newydd fyd –
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno ‘i hun.

SERCH HUDOL.
ALAW,–Serch Hudol.

Serch Hudol swyn,
Sy’n llanw ‘r llwyn,
Pan fo myrdd o adar mwyn,
Yn canu yn y coed.
Mae anian oll yn canu ‘nghyd,
‘D oes dim yn fyddar nac yn fud,
Mae mwy o fiwsig yn y byd
Na thybiodd dyn erioed.
Corau ‘r Wynfa wen,
A ganant byth heb ddod i ben,
Maer delyn aur gan deulu ‘r nen,
Yng ngwyddfod Duw ei hun.
Mae can yn hedeg ar ei hynt,
Yn swn y mor a llais y gwynt,
Bu ser y bore ‘n canu gynt,
Paham na chana dyn?

Serch hudol yw,
Pob peth sy’n byw,
Yn y nef a daear Duw;
O’r haul sy’n llosgi fry –
I’r pryfyn tan yr hwn a roed,
I rodio ‘r clawdd a gwraidd y coed, I oleu ar y llwybyr troed
Sy’n arwain i dy dy.
Hardd yw llun a lliw,
Pob peth a ddaeth o ddwylaw Duw,
I ble ‘r a llygad dyn nad yw,
Yng ngwydd y tlws a’r cain?
Prydferthwch sydd yn llanw ‘r nef,
A phob creadur greodd Ef,
O’r eryr ar ei aden gref,
I’r dryw sydd yn y drain.

BREUDDWYD Y BARDD.

Nis gwn am un engraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y don ar ddiwedd y chweched llinell, a’r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.

ALAW,–Breuddwyd y Bardd.

[Music not transcribed–DP]

Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlan; A’i feddwl a hedodd i’r amser
Y gwelid ei blant wrth y tan.
Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd Yn weddw ac unig heb neb iw wahardd –
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.

Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu ‘n ei alw fe ‘n “dad!”
Ni welodd ef gladdu ei briod a’i deulu, Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd – Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt, Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd – Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynyrchion ei awen, Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd – Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

CORN Y GAD.
ALAW,–Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth.

Ar y mynydd rhodiai bugail,
Gwelai ‘r gelyn ac yn uchel,
Bloeddiodd allan–“Llongau Rhyfel!” Yna clywai gorn y gad.
Corn y gad!
Dyna ganiad corn arswydion,
Traidd ei ddolef trwy Blunlumon,
Cawdor sydd yn galw ‘i ddynion.
Corn y rhyfel hollta ‘r nefoedd,
Tery arswyd trwy ‘r mynyddoedd,
Etyb creigiau pell y cymoedd
Gorn y gad.

Fel mae Draig hen Gymru ‘n deffro
Tan y amynydd yn ei hogo’,
Cerrig ateb sydd yn bloeddio,
Chwythu ‘n uwch wna corn y gad;
Corn y gad!
Meibion Berwyn ydynt barod,
Llifant o’r mynyddoedd uchod,
Duant y gwastadedd isod;
Meirch i’r frwydyr gydgarlamant,
Holl gleddyfau Cymru fflamiant,
Mewn urdduniant, cydatebant
Gorn y gad!

CORN Y GAD.

Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o’m blaen wedi cyfansoddi can ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig. Fe ddichon fod y don wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o’m cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na’m heiddo i. Fe ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth- um ar ei thraws. Fel yr oedd Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i’n gilydd, fe ofynnodd ef braidd yn sydyn, “A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?” Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. “O,” ebai yntau, “hen don anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i ‘Difyrrwch Gwyr Harlech,’ ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi.” Digwyddodd fod ei lais yn well nag arferol, a’m ystafell innau yn fechan, ac allan a hi nes oedd y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y ty. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan seindorf Dolgellau.

DAFYDD Y GARREG WEN.

Tyddyn yw y Garreg Wen, ger Porthmadog. Yno yn y flwydd 1720 y ganwyd Dafydd, i’r hwn y priodolir cyfan-soddiaeth y don sydd ar ei enw. Dywedir hefyd, ond ar ba sail nis gwyddom, mai efe ydyw awdwr Codiad yr Hedydd, Difyrrwch Gwyr Cricieth, ac alawon eraill. Y mae y don yn un o’r rhai prydferthaf sydd gennym, ac yn nodedig o alarus a dwys. Bu y cerddor gobeithiol hwn farw yn 1749, yn 29 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynys Cynhaiarn, lle mae cofadail i’w goffadwriaeth, a llun ei delyn yn gerfiedig arni ynghyd a’r geiriau,–“BEDD DAVID OWEN, neu DAFYDD Y GARREG WEN.”

‘R oedd Dyfydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
“Ffarwel i ti ‘mhriod, fy Ngwen,” ebai ef, “Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.”

Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl ddaeth I chwyddo ‘r tro olaf trwy ‘i fynwes oer, gaeth; “Hyd yma ‘r adduned, anwylyd, ond moes
Im’ gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.”

Estynwyd y delyn, yr hon yn ddioed
Ollyngodd alawon na chlywsid erioed; ‘R oedd pob tant yn canu ‘i ffarweliad ei hun, A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.

“O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fon, Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo ‘r don, Y dydd y’m gosodir fi ‘n isel fy mhen,” – A’i fysedd chwareuant yr “Hen Garreg Wen.”

‘R oedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
Yn swn yr hen delyn gogwyddodd ei ben, Ac angau rodd fywyd i’r “Hen Garreg Wen.”

TORIAD Y DYDD.
ALAW,–Toriad y Dydd.

Fe welid cant o honom
Yng ngoleu ‘r lleuad brudd,
Yn dringo fyny ‘r Wyddfa fawr
I weled Toriad Dydd.
Edrychem ar y nefoedd,
Wrth fynd o fryn i fryn;
Edrychem ar y llynoedd dwr,
A phwysem ar ein ffyn.
A gwelem y Saith Seren
Oedd yn y gogledd draw,
Yn gwenu ar Saith Seren wen
Oedd yn y llyn gerllaw.
Ond nid oedd amser sefyll,
Nid oedd ond hanner awr,
Na byddai Toriad Dydd yn dod
Ar ben y Wyddfa fawr.

O’r diwedd cyrhaeddasom
At ffynnon ger ei phen,
Gan ddiolch am gael gwin y graig
Mor agos at y nen.
Dringasom ris i fyny,
A threm fawreddus gaed, –
Yr holl ddwyreiniol fyd yn goch,
Yn fflamio wrth ein traed;
Ataliodd pawb ei anadl,
A phlethodd pawb ei law,
Wrth weld y goelcerth goch yn dod,
A’r nos yn treiglo draw.
Galwasom am y delyn,
Ac yng ngoleuni ‘r wawr,
Canasom don ar “Doriad Dydd”
Ar ben y Wyddfa fawr.

YR ENETH DDALL.
ALAW, Toriad y Dydd.

Mae llawer un yn cofio
Yr eneth fechan ddall;
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
Mor brydferth, ac mor gall;
Fe gerddodd am flynyddau
I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd o gam i gam,
Yn nwylaw rhai o’r plant.
‘R oedd gofal pawb am dani,
A phawb yn hoffi ‘r gwaith
O helpu ‘r eneth fach ymlaen,
Trwy holl drofeydd y daith;
Siaradai ‘r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi.

Fe glywai felus fiwsig
Yr adar yn y dail;
Fe deimlai ar ei gwyneb bach
Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau ‘r ddaear;
Ond nis adwaenai ‘r fun
Mo wen yr haul, a mwy na ‘r oll
Mo wen ei mam ei hun.
Mae ‘r plentyn wedi marw, –
Ar wely angau prudd
Fe wenodd ar ei mam gan ddweyd,
“Mi welaf doriad dydd!”
Ehedodd mewn goleuni
Oddiwrth ei phoen a’i phall,
A gweled golygfeydd y nef
Y mae yr ENETH DDALL.

CODIAD YR HEDYDD.
ALAW,–Codiad yr Hedydd.

Dywedir fod D. Owen wedi mynd i noson-lawen i Blas y Borth, Porthmadog, ac fe arosodd y telynor yn rhialtwch yr arwest, tan ddau neu dri o’r gloch yn y bore. Fe ddaeth dydd ar warthaf Dafydd a’i delyn pan oedd y ddau ar y ffordd adref. Eisteddodd y llanc ar garreg sydd i’w chanfod eto yn yr ardal, i sylwi ar ehedydd uweh ei ben yn taro cyweirnod ei galon ar doriad dydd. Dyna’r fan a’r pryd y cyfansoddwyd y don Codiad yr Hedydd.

Clywch, clywch foreuol glod,
O fwyned yw ‘r defnynnau ‘n dod
O wynfa lan i lawr.
Ai man ddefnynnau can
Aneirif lu ryw dyrfa lan
Ddiangodd gyda ‘r wawr?
Mud yw ‘r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth gryn;
Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia ‘i hun.
Mor nefol swynol ydyw ‘r sain
Sy ‘n dod i ddeffro dyn.

Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar aden lwyd,
Yn uwch, yn uwch o hyd;
Can, can dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd, –
Canu mae a’r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le;
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ol i froydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw,
I fyny fel efe.

AR HYD Y NOS
ALAW,–Ar hyd y Nos.

Holl amrantau ‘r ser ddywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma ‘r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu ‘r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos;
I oleuo ‘i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i’n gilydd
Ar hyd y nos.

MORFA RHUDDLAN.
ALAW,–Morfa Rhuddlan.

Gwgodd y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd; Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion, Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol, Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol Achos y cyfiawn a chartref y gwan.

Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth, Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog, Syrthied i’r ddaear fel syrthiodd efe. Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo ‘r Ior; Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan, Gwell ydoedd suddo i Ryddid y mor.

‘DOES DIM OND EISIEU DECHREU.
ALAW,–Y Gadlys.

‘Does dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu ‘n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
‘Does un gelfyddyd dan y rhod
Nad all y meddwl diwyd ddod,
I’w deall wedi dechreu.
“Fe hoffwn innau sengyd
Ar ben y Wyddfa draw,”
Medd hen foneddwr gwanllyd
A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
Ac erbyn hanner dydd yr oedd
Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
“‘Doedd dim ond eisieu dechreu.”

I fesur y planedau
Sy’n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
Y ddaear tan dy droed –
Y bachgen efo ‘i lyfrau
Ymlaen yr a, ymlaen yr a
I wneuthur drwg neu wneuthur da,
‘Does dim ond eisieu dechreu.
Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
‘Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
Ffynhonnau bach sy’n llifo ‘i lawr, Ond ant i’r mor yn genllif mawr,
‘Does dim ond eisieu dechreu.

DIFYRRWCH GWYR HARLECH
ALAW,–Difyrrwch Gwyr Harlech

Wele goelcerth wen yn fflamio,
A thafodau tan yn bloeddio,
Ar i’r dewrion ddod i daro
Unwaith eto ‘n un;
Gan fanllefau ‘r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a gryn.
Cwympa llawer llywydd,
Arfon byth ni orfudd;
Cyrff y gelyn wrth y cant
Orffwysant yn y ffosydd;
Yng ngoleuni ‘r goeleerth acw,
Tros wefusau Cymro ‘n marw,
Anibyniaeth sydd yn galw
Am ei dewraf dyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech; cwyd i’w herlid;
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid,
Yn rhoi nerth i ni;
Wele Gymru a’i byddinoedd
Yn ymdywallt o’r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaiadrau dyfroedd
Llamant fel y lli.
Llwyddiant i’n lluyddion,
Rwystro bar yr estron,
Gwybod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddyf Brython.
Cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia i fyny,
Rhyddid aiff a hi.

TROT Y GASEG.
ALAW–Trot y Gaseg.

Rhaid imi basio heno
Ty geneth lana’r fro,
Dymunwn alw yno,
Ond ni wnaiff hynny ‘r tro.
Tyrd ti fy merlen hoew,
I fyny ‘r dyffryn acw;
Da gwyddost am y ty
Y trig fy ngeneth gu –
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio ‘r Dolydd Gleision,
Ar gefn fy merlen ddu.

Mae miwsig hen alawon,
Yn swn dy bedwar troed:
Rwy ‘n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra ‘r afon ar y graian,
Yn hwian iddi’ hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynnu uwch y ty,
A’m calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.

Yn y coedwigoedd agos,
Fy merlen lo’wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
Wrth deithio ar dy gefn.
Pan oeddit ti yn trotian,
Yr oeddwn innau ‘n dotian,
Wrth wrando ‘r eos gu
Ac edrych ar y ty.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
Ar gefn fy merlen ddu.

LLANCES Y DYFFRYN.
ALAW,–Llances y Dyffryn.

Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn, Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;
Glanach yw ‘r defaid ar ochr y bryn, Gwynnach yw ‘r alarch ar ddwfr y llyn:
Clysach yw ‘r blodau, a glasach yw ‘r coed; Harddach, prydferthach y byd nag erioed. Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn, Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

Llances y Dyffryn oleuodd y fro,
Gloewach yw ‘r afon a glanach yw ‘r gro; Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,
Hoenach yr awen na bu erioed.
Hoffach yw ‘r Dyffryn a llonnach pob lle, Mwynach yw ‘r awel o’r dwyrain a’r de;
Trom fu fy nghalon, ond ‘rwan distawn, Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

YN YNYS MON FE SAFAI GWR.
ALAW–“Ymdaith y Mwnc.”

Yn Ynys Mon fe safai gwr
Ym min y nos ar fin y traeth;
Fe welai long draw ar y dwr,
A’i hannerch ar yr eigion wnaeth:- Dos a gwel fy machgen gwiw,
Dos a sibrwd yn ei glyw
Yn iaith ddinam
Ei anwyl fam,
A dywed fod ei dad yn fyw.
Ymwel gyda ‘m plentyn, a dwed fod ei dad, Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad, A thyner bo’r awel lle bynnag ‘r ei di. Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno’n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli’r un Duw, Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ywen ddu yn hardd uwchben
Y garreg las lle cwsg ei fam,
Ac fod ei dad a’i farf yn wen,
Yn grwm ei war, a byr ei gam;
Fod y pistyll eto ‘n gry,
Fod yr afon fel y bu,
Ar wely glan
O raian man,
Yn sisial ton wrth ddrws y ty.
Ymwel gyda ‘m plentyn, a dwed fod ei dad, Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad, A thyner bo’r awel lle bynnag ‘r ei di. Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno ‘n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli ‘r un Duw, Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

Fod ganddo chwaer ar ddelw ‘i fam, Sydd yn parhau i’w garu ef,
Sy ‘n llawenhau wrth feddwl am Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni teg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn haul.
Ymwel gyda ‘m plentyn, a dwed fod ei dad, Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad A thyner bo ‘r awel lle bynnag ‘r ei di. Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno ‘n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli ‘r un Duw, Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.

CADLEF MORGANNWG.

O “Syr Rhys ap Tomos.”

Clywch, clywch, hen gadlef Morgannwg, Wele Rys a’i feirch yn y golwg,
I’w atal ymlaen
‘Dyw mynydd ond maen
Adewir mewn llwch ar ei ol.
Corn y gad ydyw miwsig yr awel,
Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel, Yn galw ar fynydd a dol.
Wel sefwch yn hyf gyda ‘ch dreigiau, Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gad I godi’r hen wlad yn ei hol.

Mae breichiau myrdd yn caledu,
A ffroenau y meirch yn lledu;
A berwi mae gwaed,
Gwyr meirch a gwyr traed,
I godi’r hen wlad yn ei hol.
Fry, fry, cyhwfan mae ‘r faner,
Trywanu mae ‘r cledd at ei hanner;
Yn uwch eto ‘n uwch gyda ‘r dreigiau, Ac edrychwch i lawr megis creigiau,
Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gad, I godi ‘r hen wlad yn ei hol!

MWYN YW MYNED TUA MON.
ALAW,–Hufen Melyn.

A ddowch chwi’ rwyf–o ar yr
af–on, A ddowch chwi’ gan-u yn-o’n gor?

I weld hy–naws–ed yd–yw
nos-on, A mwyn-ed murmur tonau’r mor?

A gawn ni fyn-ed ar y Fenai hen- o, I Yn–ys Mon-a rhwyf–wn gyda’r don: O
dowch i gan-u, dowch i nof–io, Dowch i rwyf-o gyda’r don: Mae croes–o an-wyl in–i
yn–o, O mwyn yw myn-ed tu–a Mon.

Mae ‘r bad yn nofio ar yr afon,
A nos o fwyniant ydyw hon;
Mae ‘r ser a’r lleuad yn dryloewon, A’r cor yn canu ar y don.
Wel ar y Fenai, ar y Fenai heno,
Y llawen ganwn, rhwyfwn gyda ‘r don, – A dyma ‘r canu, dyma ‘r nofio,
Dyma ‘r rhwyfo gyda ‘r don;
Mae aelwyd lawen inni yno,
O mwyn yw myned tua Mon.

HUN GWENLLIAN.
ALAW,–Hun Gwenllian.

Hun Gwenllian, ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti tan y gwys;
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Cledd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.

Hun Gwenllian, i’th fendithio
Duw ‘th gymerodd yn ei gol;
Mae th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw ‘r iengaf byth yn ol.
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr;
Hun Gwenllian, hun Gwenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.

AR DDOL PENDEFIG.
ALAW,–Y Gwenith Gwyn.

Ar ddol pendefig, heidden wen
Ymgrymai’ phen yn hawddgar;
‘R oedd cnwd o honynt ar y cae,
Fel tonnau hyd y ddaear;
A cher y fan, ar fin rhyw lyn,
‘R oedd gwenith gwyn yn gwenu;
Un gwlith, un gwlaw, oedd ar y ddau, Y cnydau prydferth hynny.

Fe roddodd Duw mewn gwlaw a gwlith,
Ei fendith ar y maesydd;
A dyn a godai gyda ‘r wawr
I dorri lawr y cynnydd.
Ond rhwng y ddeufaes trowynt ddaeth, A rhuo wnaeth i’r nefoedd, –
“Fod un yn mynd er bendith dyn,
A’r llall i ddamnio miloedd.”

A LAESWN NI DDWYLAW?
ALAW,–Llwyn Onn.

A Laeswn ni ddwylaw yng nganol y rhyfel, Tra ‘r gelyn yn erlid, a fynnwn ni hedd? Tra llidiart y fynwent a’i sgrech ar ei hechel Wrth dderbyn y meddwon i stafell y bedd? Mae’r blodau sy’n tyfu ar feddrod y meddwyn Yn gollwng eu dagrau tan gysgod yr yw;
A’r gwynt wrth fynd heibio, fel taran; yn gofyn “Pa un ai moesoldeb ai meddwdod gaiff fyw?”

LLWYBR Y PERERIN.

Mi dybiais fod ffordd y pererin i’r nef Yn un lefn ac hardd-esmwyth trwy ddyffryn glas gain; Dangosaist Di ‘r ffordd–ac un gul dywell oedd, Garegog a blin trwy fieri a drain.
Mae temlau a phlasau heb ofid na phoen, Ond y maent tros gagendor o dir y rhai byw; Mae afonydd o hedd, ond pa le maent i’w cael, – Yn y nef yno maent, fry yn nefoedd fy Nuw.

BEDD LLYWELYN.
ALAW,–Goslef Llywelyn.

I Feddrod Llywelyn mae ‘r tir wedi suddo, Ac arno ‘r gwlawogydd arosant yn llyn; Mae ‘r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo, Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn. Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn! Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei gwedd? Mae dagrau y cwmwl yn gwybod am dano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.

Ar ddamwain mae ‘r Cymro yn dyfod i weled, Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran; Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo ‘n lled wan; Dieithriaid a ddont i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd; Wel diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered, Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd.

A DDWEDAIST TI FOD CYMRU ‘N DLAWD.

A Ddwedaist ti fod Cymru ‘n dlawd,
Am fod ei llannau ‘n llonydd,
A thithau ‘th hun yn cloddio, frawd, Ym mryniau aur Meirionnydd?
Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,
Na ddaeth i galon dyn erioed,
Anwiredd mwy erioed ni wnawd –
Na ddywed byth fod Cymru ‘n dlawd.

I ble y trown o fewn y tir,
Nas gwelir mwn ei meini
Nad yw ‘r meteloedd o’u gwelyau
Yn edrych am oleuni,
Nad yw y pres a’r arian faen,
Yn galw ar bob Cymro ‘n mlaen,
I roi ei ffydd a threio ‘i ffawd
Yn holl oludoedd “Cymru dlawd?”

Estyna ‘th fys pan glywot hyn,
Yn cael ei ddweyd am Gymru,
At unrhyw graig, at unrhyw fryn,
Fo ‘n edrych ar i fyny.
Mae ‘r nentydd oll wrth fynd i’r aig A cherrig ateb ym mhob craig,
Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd –
Na ddywed byth fod Cymru ‘n dlawd.

PEIDIWCH BYTH A DWEDYD HYNNY.

[Ysgrifennwyd y geiriau i Miss Edith Wynne, yr hon a’u canodd yn Eisteddfod Genhedlaethol Caernarfon, 1862.]

D’wedwch fod fy ffroen yn uchel,
Fod fy malchder yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
A mursendod yn fy llais.
Ond mae terfyn i anwiredd,
I greulondeb a sarhad.
Peidiwch byth a dwedyd hynny,
Imi golli m serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.

II.

O mor barod ydyw dynion
I drywanu at y byw;
O mor gyndyn ydynt wedyn
I roi eli ar y briw.
Dodwch garreg ar fy meddrod,
Fel y mynnoch bo ‘r coffad;
Dyna ‘r pryd i dd’wedyd hynny,
Imi golli ‘m serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad.

DYDD TRWY ‘R FFENESTR.
ALAW,–Dydd Trwy ‘r Ffenestr.

Mae rhyddid i wylan y mor gael ymgodi, Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ‘r Eryri Ehedeg i waered i weled y wig;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda ‘r wawr, byddwn ninnau ‘n rhydd, Byddwn yn rhydd!

Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed; Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed; Pan welom oleuni yn gwynnu ‘r ffenestri, Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd; Yfory gyda ‘r wawr, byddwn ninnau ‘n rhydd, Byddwn yn rhydd!

CERDDI CYMRU SYDD YN BYW.

Cerddi Cymru sydd yn byw,
Trwy ‘r blynyddau yn ein clyw;
Sibrwd ein halawon gynt,
Mae cwynfanau trwm y gwynt;
Dwyn yn ol lais mam a thad
Mae hen donau pur ein gwlad.

Pan sisialo dail y llwyn,
Clywir chwi yn lleddf a mwyn;
Dweyd mae ‘r mor wrth ruo ‘i gan
Ddarnau cerddi Cymru lan;
Ac mae clust y Cymro ‘n gwneyd
I’r gre’digaeth oll eu dweyd.

I GADW ‘R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD.

I gadw ‘r hen wlad mewn anrhydedd,
A’r cenin yn fyw a difeth;
Mae rhai yn prydyddu ‘n ddiddiwedd, Ond dyma fy marn am y peth, –
Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion, Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed,
Yw tafod y bachgen bach gwirion,
Na ddwedodd anwiredd erioed.

Cydgan: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol, Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,
I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol, Sy’n cadw’r geninen yn werdd.

Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,
Sy’n deall bob tric i wneud pres; Ond anhawdd anichon cael ceiniog
O’i boced at ddim a fo les.
Pan allan, os a yn ei gerbyd,
Pan gartref os tyn yn ei gloch;
Mae ‘n well i ni’r gonest a’r diwyd Pe na bai yn werth dimeu goch.

Ym mhell y bo ‘r bobol sy’n grwgnach, Yn erbyn caledrwydd y byd,
Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach,
Tra plethant eu dwylaw ynghyd.
Nid felly y byddai ‘r hen Gymry,
Ac os yw dy waed ti yn bur,
‘R wyt yn edrych yn wrol i fyny
Ac yn fachgen sy’n gweithio fel dur.

MYFI SY’N MAGU ‘R BABAN.

[Can mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata Tywysog Cymru.”]

Myfi sy ‘n magu ‘r baban,
Myfi sy ‘n siglo ‘r cryd,
Myfi sy ‘n hwian, hwian,
Ac yn hwian hwi o hyd.
Bu ‘n crio bore heddyw,
O hanner y nos tan dri;
Ond fi sy ‘n colli ‘m cysgu,
Mae ‘r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy ‘n magu ‘r plentyn,
Bob bore, prydnawn a hwyr;
Y drafferth sydd ei ganlyn,
Fy hunan yn unig wyr.
Nis gwyr ef air o Saesneg,
Nac un gair o’n hen hiaith ni, –
I ddysgu ‘r twysog bychan,
Mae ‘r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu,
I fyned yn llencyn iach;
Caiff iaith brenhinoedd Cymru
Fod rhwng ei ddwy wefus fach.
A phan ddaw ef yn frenin,
Os na wnaiff fy nghofio fi,
O! cofied wlad y cenin,
Y wlad sydd mor anwyl i ini.

TUA THEGID DEWCH.

Chwi feirdd y trefydd mawr
Sy ‘n byw ar fwg a llwch;
Dowch gyda fi yn awr,
Dowch neidiwch i fy nghwch.
Fyny ‘r hen Ddyfrdwy nofiwn,
A ffarwel i’r mwg sydd ar ein hol, Rhwyfwn ymlaen, a chanwn
Dan y coed a’r pynt, o ddol i ddol. Ger tref y Bala
Mae lle pysgota,
Ar loew loew lyn;
Awn ymlaen tua ‘r dyfroedd hyn,
Moriwn yng nghanol Meirion;
Tynnwn rwyf gyda rhwyd yn hoew, Ar groew loew lyn.

Draw, draw yng nghanol gwlad,
Deg, deg fel Eden ardd;
Ceir yno adfywhad
I’r cerddor ac i’r bardd.
Bywyd sydd yn yr awel
Fel y del o’r coed, o’r allt, a’r rhiw, Bywyd y Cymry ‘stalwm,
Ysbryd can a mawl sydd yno ‘n byw. Ger tref y Bala, &c.

Chwi wyr y trefydd mawr,
Gwyn, gwyn eich gruddiau chwi,
O dowch am hanner awr
Mewn cwch ar hyd y lli;
Rhwyfwn i fyny ‘r afon,
Gyda gwrid ac iechyd dychwel gewch; Mae mor rhwng bryniau Meirion,
Tua Thegid dewch, i Degid dewch!
Ger tref y Bala, &c.

HEN GWRWG FY NGWLAD.

Hen gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn, Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy. Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn
Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy. Pe rhwyfwn ganw ar y Ganges chwyddedig,
Neu donnau ‘r Caveri, rhoi hynny foddhad; Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig, A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, ‘rwyf fi gyda thi ‘n nofio Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;
Hen glychau a thonau o newydd wy ‘n gofio, A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr. Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn, I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad; Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn, I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith, Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt; Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith, Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt. Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola, Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mad; Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola, Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.

POB RHYW SEREN.

[Suo-gan y Monwyson o “Cantata Tywysog Cymru.”]

Pob rhyw seren fechan wenai,
Yn y nefoedd glir uwch ben;
Rhwyfai cwch i fyny ‘r Fenai,
Yng ngoleuni ‘r lleuad wen.
Clywid canu–sucganu,
Yn neshau o Ynys Mon, –
Canu, canu, suoganu,
Melus orfoleddus don.

Mewn awelon ac alawon,
At y Castell rhwyfai’r cor;
Ar y tyrau suai ‘r chwaon,
Wrth eu godrau suai ‘r mor.
Canent, canent, suoganent,
Ar y Fenai loew, dlos;
Dan ystafell y Frenhines,
Suoganent yn y nos.

“Fel mae ‘r lloer yn hoffi sylwi
Ar ei delw yn y lli;
Drych i Rinwedd weld ei glendid
Fyddo oes dy faban di.”
Suoganu i’r Frenines,
Dan y ganlloer loew, dlos,
Felly canodd y Monwyson,